Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau statudol gydag adroddiadau clir

29 Medi 2014

 

 

CLA446- Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) 2014

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio’r diffiniadau o ranbarthau talu ‘rhostir’ ac ‘ardal dan anfantais difrifol’ yng Nghymru. Maent hefyd yn ehangu’r criterion ar gyfer apelio yn erbyn dosbarthiad tir at ddibenion y Cynllun Taliad Sylfaenol.